Gwybodaeth am GWLAD

Llun o cynhadledd GWLAD

Mae GWLAD yn bartneriaeth unigryw ac arleosol a fydd yn gweithio ar draws ardaloedd gwledig Gogledd Cymru. O fewn y Bartneriaeth, ceir darparwyr addysg, asiantaethau cymunedol, asiantaethau gwirfoddol a chyflogwyr.

Mae partneriaeth GWLAD yn cynnwys yr Adran Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, ynghyd â CAIS, Medrwn Môn, Rhwydwaith Gwybodaeth Gofid Cefngwlad, Stonewall Cymru, y Black Environment Network, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Chwarae Teg, y Brifysgol Agored, ac Alfred McAlpine Slate Ltd.

Amcan Partneriaeth Ddatblygu GWLAD yw archwilio a darparu cyfleoedd i bobl sy’n byw yn ardaloedd gwledig Gogledd Cymru gael mynediad i addysg, hyfforddiant a gwaith.  Byddem yn cyflawni hyn trwy ddatblygu a phrofi dulliau arleosol a grymusol o ddarparu dysgu gydol oes mewn ardaloedd gwledig.

Mae partneriaeth GWLAD yn ymchwilio i’r rhwystrau sy’n wynebu pobl wrth iddynt geisio cael addysg a chyfleoedd hyfforddiant mewn ardaloedd gwledig gan ganolbwyntio yn arbennig ar y grwpiau sydd yn aml yn cael eu heithrio o’r cyfleoedd yma.

Bydd ein Gweithgareddau yn Cynnwys:

Datblygu a phrofi dulliau newydd i ddarparu addysg mewn ardaloedd gwledig.

Datblygu gweithgareddau i hybu addysg, cyngor a hyfforddiant mewn cymunedau gwledig.

Gweithio gyda grwpiau gwirfoddol, y sector breifat ac asiantaethau eraill i ddatblygu dulliau a fydd yn cynnal pobl yn y gweithle ac i gynorthwyo pobl gan gwaith.

Darparu hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar draws partneriaeth GWLAD.

Gweithio gyda’n partneriaid trawsladol i rannu, datblygu a lledaenu esiamplau o ymarfer dda.

Mae’r bartneriaeth wedi’i chyllido trwy raglen EQUAL.  Rhaglen Mentrau Cymunedol yr Undeb Ewropeaidd yw EQUAL, sy’n anelu at hyrwyddo dulliau newydd o frwydro’n erbyn pob ffurf ar wahaniaethau ac anghydraddoldeb yng nghyswllt y farchnad waiith.  Mae EQUAL hefyd yn cynnwys gweithredu i gynorthwyo yn y gwaith o gymathu ceiswyr lloches, yn gymdeithasol ac yn alwedigaethol.

REAL

Yn Barod ar gyfer Dysgu Ewropeaidd

Mae Partneriaeth Ddatblygu GWLAD yn gweithio ar y cyd â phartneriaeth drawswladol, sef REAL, gyda chydweithwyr yng Ngwlad Belg, Ffrainc a’r Weriniaeth Tsiec.

http://www.real-europe.net/

Mae diddordeb y bartneriaeth drawsladol hon wedi’i ganoli ar ddulliau arleosol o gael mynediad i addysg a hyfforddiant.  Mae’r rhain yn cynnwys datblygu methodolegau e-ddysgu, cefnogaeth ar gyfer dysgu, a lledaenu cyfleoedd ar gyfer grwpiau sy’n wynebu rhwystrau yn manteisio ar fathau traddodiadol o ddysgu, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.


Manylion Cyswllt

GWLAD
Ysgol Dysgu Gydol Oes,
Prifysgol Bangor,
Stryd y Deon,
Bangor,
Gwynedd
LL57 1UT

01248 383848

p.reid@bangor.ac.uk

European Socail Fund Logo