Croeso i Wefan GWLAD

Photograph from Transnational meeting

Enw partneriaeth unigryw sydd wedi ei lleoli yng Ngogledd Cymru yw GWLAD, sy’n edrych ar ffyrdd arloesol o gyflwyno dysgu mewn ardaloedd gwledig.

Mae GWLAD wedi ei hariannu gan gylid EQUAL 2 Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’r enw’n cyfeirio wrth gwrs at gefn gwlad, ond hefyd mae’n acronym Saesneg sy’n adlewyrchu prif waith ein project - Getting Work, Learning and Advice mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau o’r sectorau addysgol, gwirfoddol a chymunedol gan gynnwys yr Ysgol Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Cymru, Bangor fel partner arweiniol; Medrwn Môn, yr asiantaeth wirfoddol dros Ynys Môn; y Black Environment Network; CAIS - sefydliad ailsefydlu pobl gyda phroblemau’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol; Stonewall Cymru; Chwarae Teg, sefydliad hawliau marched; Bwrdd yr Iaith Gymraeg; y Brifysgol Agored; a McAlpine’s, cyflogwr lleol.

Mae gweithgareddau’r project yn cynnwys ymchwilio i’r rhwystrau i ddysgu mewn ardaloedd gwledig, a sefydlu enghreifftiau blaengar o ddysgu ac arweiniad.

Mae llawer o werth y project yn deillio o weithio gyda phartneriaid mewn gwahanol sectorau a dysgu oddi wrthynt.  Mae’r holl bartneriaid yn wynebu’r un problemau:

  • yr un math o ddaearyddiaeth; mae problemau gyda chludiant a mynediad at wasanaethau a darpariaeth gofal plant yn golygu ei bod yn hynod anodd manteisio ar gyfleoedd dysgu confensiynol mewn ardaloedd gwledig;
  • cymunedau dwyieithog; y Gymraeg yw iaith gyntaf tua 60% o’r boblogaeth.

Ein nod yw gweithio gyda phobl yn eu cymunedau i ddatblygu cyfleoedd sydd fwyaf priodol ar eu cyfer a datblygu gweithgareddau dysgu sy'n helpu mewnfudwyr i ddeall diwylliant ac iaith yr ardal. 

Mae’r elfen ddwyieithog yn bresennol ym mhob agwedd ar ein project ac mae cyfarfodydd a gweithgareddau’n cael eu cynnal fel rheol yn Gymraeg a Saesneg.

Fel rhan o’r project mae gennym bartneriaeth ryngwladol hefyd gyda phartneriaethau datblygu EQUAL eraill ar draws Ewrop ac rydym yn rhannu arfer da a hefyd yn cyfnewid staff gyda phobl sy’n gweithio ar brojectau tebyg yn y Weriniaeth Tsiec, Bwrgwyn a Gwlad Belg.


Newyddion Diweddaraf

pdf icon#ADRODDIAD TERFYNOL PROSIECT GWLAD
Ymateb i Anghenion Dysgu Gwledig yng Ngogledd Cymru: Gwersi a Ddysgwyd ac Argymhellion
(Tachwedd 2008)

GWLAD yn creu Cyfeillgarwch Gydol Oes gyda Tseciaid
Fel rhan o bartneriaeth drawswladol lwyddiannus iawn rhwng prosiect GWLAD, dan arweiniaeth Ysgol Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, a ‘Bridge to Education’ yn y Weriniaeth Tsiec, trefnwyd nifer o ymweliadau rhwng y ddwy wlad. Darllen ymlaen...

Hybu cyfraniad lleiafrifoedd ethnig i economi Gogledd  Cymru
Fe wnaeth y Black Environment Network (BEN) gynnal achlysur ar 7 Rhagfyr i lansio’u cyhoeddiadau newydd, sy’n rhannu’r arfer dda o ddau broject EQUAL Ewropeaidd.
Darllen ymlaen...

European Socail Fund Logo