
Prif Ffrydio
Bydd y broses brif-ffrydio’n digwydd yn fertigol gan anelu at ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol (ac ymateb i fylchau mewn polisi) trwy ddarparu tystiolaeth o arloesi ac ymarfer da er mwyn trosglwyddo negeseuon allweddol mewn ffurf ddefnyddiol i wneuthurwyr polisi, megis Llywodraeth y Cynulliad Cymreig, Dysg, Partneriaethau Dysgu Gydol Oes, Job Centre Plus a darparwyr eraill sy’n darparu dysg a gwasanaethau.
Bydd prif-ffrydio’n digwydd yn llorweddol hefyd wedi’i anelu at y PD (Partneriaeth Ddatblygu), sefydliadau partner, asiantaethau a grwpiau gyda diddordebau cyffelyb, a bydd yn canolbwyntio ar wersi ymarferol a ddysgwyd.
Bydd y gwaith cydweithredol o fewn y PD, a chyda sefydliadau partner eraill, yn ein galluogi i ymdrin â themâu cydraddoldeb, amrywiaeth a gwahaniaethu gyda'n gilydd a thrwy hynny gael mwy o ddylanwad ar bolisïau cenedlaethol a phwerau prif-ffrydio.
Stryd y Deon, Bangor LL57 1UT
F fôn: 01248 383848 E-bost: p.reid@bangor.ac.uk