Hybu cyfraniad lleiafrifoedd ethnig i economi Gogledd  Cymru   

Yn y llun gwelir, gydag un o’r llyfrynnau, Ruth Richards, Swyddog Cydraddoleb, Cyngor Gwynedd, Trish Reid, Cydlynydd project GWLAD Prifysgol Bangor, a Judy Ling Wong, Cyfarwyddwr BEN UK.

Fe wnaeth y Black Environment Network (BEN) gynnal achlysur ar 7 Rhagfyr i lansio’u cyhoeddiadau newydd, sy’n rhannu’r arfer dda o ddau broject EQUAL Ewropeaidd. Cynhaliwyd yr achlysur yn swyddfeydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru a wnaeth gyllido’r gwaith hefyd. Daeth nifer dda o gymunedau ethnig lleol i’r cyfarfod, a staff o sefydliadau amgylcheddol a threftadaeth sydd wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd am y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’r llyfrynnau ysgafn a lliwgar wedi eu hysgrifennu’n syml a’u nod yw hybu’r cymunedau ethnig yng Nghymru a thynnu sylw at y cyfleoedd ar gyfer mwyniant a gwaith yn sectorau’r amgylchedd a threftadaeth sydd mor bwysig yn economi Cymru. Mae  ‘Fun and Learning in the Environment’ yn dangos beth mae’r gwahanol sefydliadau sy’n gofalu am ein hamgylcheddau adeiledig a naturiol yn ei gynnig i ymwelwyr. Yn ‘Working Together to increase Employment’ tynnir sylw at y ffyrdd niferus y gellir defnyddio gweithgareddau ar safleoedd i ysgogi mynegiant diwylliannol a meithrin diddordeb grwpiau ethnig mewn gwirfoddoli a chyfleoedd eraill sy’n arwain at waith cyflogedig yn y sectorau.

Mae’r ddau lyfryn ar gael o swyddfa’r Black Environment Network yn Llanberis, ffôn 01286 870715.

Yn y llun gwelir, gydag un o’r llyfrynnau,  Ruth Richards, Swyddog Cydraddoleb, Cyngor Gwynedd, Trish Reid, Cydlynydd project GWLAD Prifysgol Bangor, a Judy Ling Wong, Cyfarwyddwr BEN UK.

18/12/07


Manylion Cyswllt

GWLAD
Ysgol Dysgu Gydol Oes,
Prifysgol Bangor,
Stryd y Deon,
Bangor,
Gwynedd
LL57 1UT

01248 383848

p.reid@bangor.ac.uk

European Socail Fund Logo