GWLAD yn creu Cyfeillgarwch Gydol Oes gyda Tseciaid

Fel rhan o bartneriaeth drawswladol lwyddiannus iawn rhwng prosiect GWLAD, dan arweiniaeth Ysgol Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor, a ‘Bridge to Education’ yn y Weriniaeth Tsiec, trefnwyd nifer o ymweliadau rhwng y ddwy wlad.

Ar ddydd Gwener, 23ain Tachwedd fe ddaeth y Tsieciaid drosodd i fynychu cynhadledd derfynol partneriaeth GWLAD yn Y Galeri, Caernarfon. Daeth dros 100 o bobl o sefydliadau eraill yng ngogledd Cymru i’r gynhadledd i glywed am ddarganfyddiadau y prosiect.

Ar ddydd Sadwrn trefnwyd ymweliad â Chroesor i weld prosiectau cymunedol diddorol a chrëuwyd gan y pentrefwyr fel y pwll nofio awyr agored a chaffi. Yn dilyn hyn, treuliwyd awr bleserus yn crwydro Portmeirion yn rhyfeddu ar bensaerniaeth y pentref. I gwblhau diwrnod arbennig treuliwyd y noson yn bwyta ac yfed tra’n rhannu profiadau yn Nhafarn y Fic, Llithfaen gyda phobl leol a chriw o Capel Curig a’r cyffiniau sydd wedi bod yn rhan o brosiect GWLAD. Coronwyd y noson gyda chaneuon traddoliadol gan fod y Tsieciaid wedi dod â ffidil a gitar er mwyn canu eu caneuon gwerin tra ymatebodd y Cymry gyda caneuon Cymraeg poblogaidd. Dywedodd un o’r tigolion lleol, "Dyna un o’r nosweithiau gorau yn y Fic ers rhai blynyddoedd a mae wedi bod yn bleser cwrdd â’r Tsieciaid".

Gwarwyd gweddill yr ymweliad yn y Brifysgol ac yn ymweld â sefydliadau eraill yng Ngwynedd a Ynys Môn yn dysgu sut rydym yn gwneud pethau yma.

Dywedodd Dr Brec’hed Piette, cyfarwyddwr prosiect GWLAD, a phennaeth Dysgu gydol Oes, Prifysgol Bangor:

"Drwy prosiect GWLAD rydym wedi meithrin partneriaeth werthfawr iawn gyda’n cyfeillion Tsiec. Mae nhw’n gweithio ar weithgareddau dysgu gydol oes tebyg iawn i ni, a rydym wedi croesawu’r cyfle i rannu ymarferion da rhwng y ddau sefydliad. Gobeithiwn datblygu prosiectau eraill i rannu gwaith yn y dyfodol."

Rhan-ariannwyd y prosiect drwy ESF EQUAL 2 – heb y gefnogaeth ariannol yma ni fydda’r gwaith wedi bod yn bosib.

13/12/07


Manylion Cyswllt

GWLAD
Ysgol Dysgu Gydol Oes,
Prifysgol Bangor,
Stryd y Deon,
Bangor,
Gwynedd
LL57 1UT

01248 383848

p.reid@bangor.ac.uk

European Socail Fund Logo