Archif Newyddion

Cynhadledd: LLAIS GWLAD

dydd Iau 30ain Tachwedd
Canolfan Cynhadledd, Llandudno
9.30am - 5pm

Bydd Dafydd Wigley yn annerch cynhadledd prosiect GWLAD sef LLAIS GWLAD a gynhelir rhwng 9.30 a 5.00 pm ddydd Iau 30ain Tachwedd 2006 yn y Ganolfan Gynadledda, Llandudno.

Mae GWLAD yn bartneriaeth unigryw ac arloesol sy’n gweithio ar draws ardaloedd gwledig gogledd Cymru dan arweiniad Ysgol Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Cymru, Bangor, ynghyd â CAIS, Medrwn Môn, Stonewall Cymru, Rhwydwaith Amgylchedd Pobl Ddu, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Chwarae Teg, y Brifysgol Agored ac Alfred McAlpine Slate Cyf.

Caiff y bartneriaeth ei hariannu drwy’r rhaglen EQUAL. EQUAL yw Rhaglen Menter Gymunedol yr Undeb Ewropeaidd sydd â'r nod o hyrwyddo ffyrdd newydd o fynd i’r afael â phob math o wahaniaethu ac anghydraddoldebau yn y farchnad lafur.

Bu partneriaeth GWLAD yn gwneud gwaith ymchwil ar y rhwystrau sy’n wynebu pobl wrth geisio cael mynediad at gyfleoedd addysg a hyfforddiant mewn ardaloedd gwledig. Bu partneriaeth GWLAD hefyd yn treialu dulliau gweithredu newydd mewn perthynas â dysgu a chynghori, a luniwyd i gwrdd ag anghenion penodol pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Thema’r gynhadledd yw LLAIS – Gwersi a ddysgwyd a Syniadau a rannwyd – gan ganolbwyntio ar weithgareddau prosiect GWLAD hyd yn hyn.

Gobeithiwn yn fawr y bydd modd i chi ymuno â ni ar yr achlysur hwn i gael gwybod mwy am y prosiect. Darperir cinio.


Manylion Cyswllt

GWLAD
Ysgol Dysgu Gydol Oes,
Prifysgol Bangor,
Stryd y Deon,
Bangor,
Gwynedd
LL57 1UT

01248 383848

p.reid@bangor.ac.uk

European Socail Fund Logo